Vaughan Gething, Prif Weinidog
 Drwy e-bost

Y Pwyllgor Craffu ar 
 Waith y Prif Weinidog
 —
 Committee for the 
 Scrutiny of the First Minister
 Senedd Cymru
 Bae Caerdydd, Caerdydd, CF99 1SN
 CraffuPW@senedd.cymru
 senedd.cymru/SeneddCraffuPW
 0300 200 6565 
 —
 Welsh Parliament
 Cardiff Bay, Cardiff, CF99 1SN
 ScrutinyFM@senedd.wales
 senedd.wales/SeneddScrutinyFM
 0300 200 6565
 

 

 

 


Dyddiad | Date:

Pwnc | Subject: Cyfarfod y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Annwyl Vaughan

Diolch ichi am ddod i sesiwn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 26 Ebrill 2024 ac am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am rai o ymrwymiadau Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru sy’n ymwneud â phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Roedd yn sesiwn ddefnyddiol ac addysgiadol. At hynny, peth cadarnhaol iawn oedd gweld yr oriel gyhoeddus yn llawn o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, sy’n dilyn gwaith craffu’r Senedd yn y maes hwn â diddordeb.

Buom yn trafod â chi yn ystod y cyfarfod fod yna heriau clir i rôl y rhiant corfforaethol, felly hefyd eu cyrhaeddiad ar draws yr ystod o bortffolios cabinet. Un pryder allweddol – yr ydych yn ei rannu – yw’r cynnydd parhaus yn nifer y plant mewn gofal, a’r hyn y mae’r dystiolaeth yn ei ddweud wrthym am eu sefyllfa yn y tymor hir. Byddai'r Pwyllgor, felly, yn croesawu rhywfaint o wybodaeth bellach i'n helpu i ddeall eich cynlluniau ar gyfer y dyfodol, mewn cysylltiad â rhai o'r heriau penodol a drafodwyd gennym. Mae'r meysydd hyn wedi'u nodi mewn atodiad i'r llythyr hwn.

Er mwyn eich helpu i baratoi ar gyfer cyfarfod nesaf y Pwyllgor, mae wedi’i drefnu ar gyfer 12 Gorffennaf 2024 yn Sir Gaerfyrddin, neu yn ardal Caerfyrddin, a’r thema fydd Cymunedau Gwledig.

Yn gywir

David Rees AS

Cadeirydd y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog

Croesewir gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.

We welcome correspondence in Welsh or English.


 

 

Atodiad: Gwybodaeth ychwanegol am blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Byddem yn croesawu rhywfaint o wybodaeth ychwanegol am y canlynol:

Y cynnydd yn nifer y plant mewn gofal

Pa gamau ychwanegol mae eich llywodraeth yn bwriadu ei gymryd er mwyn gostwng – mewn modd diogel – nifer y plant sy’n mynd i ofal, o ystyried nad yw’r buddsoddiad a’r dulliau presennol wedi gwrthdroi’r cynnydd, hyd yn hyn.

Rôl Llywodraeth Cymru fel rhiant, a nain a thaid, corfforaethol

Yr amserlen ar gyfer cryfhau Cod Ymarfer Llywodraeth Cymru ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, a phlant sy'n cael eu lletya, gan ei fod yn cyfeirio at rianta corfforaethol. At hynny, byddem yn croesawu gwybodaeth am unrhyw gamau ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi Gofalwyr sy’n Berthnasau, er mwyn cydnabod y rôl bwysig y maent yn ei chwarae.

Digartrefedd

Diweddariad ar sut y bydd yr iteriad nesaf o Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru ar roi terfyn ar ddigartrefedd yng Nghymru yn mynd i’r afael ag anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal, gan gynnwys rhieni biolegol sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Fe fyddwch yn ymwybodol bod data Llywodraeth Cymru yn dangos bod 315 o’r rheini a oedd yn gadael gofal yn ddigartref yng Nghymru yn 2022-23, sef cynnydd sylweddol ers 2020-21. Fel y gwyddoch, hefyd, mae’r ffigurau hyn yn cyfeirio at bobl ifanc hyd at 25 oed yn cael eu cefnogi’n weithredol gan eu hawdurdod lleol, fel rhai sy’n gadael gofal ar yr adeg yr adroddwyd am eu digartrefedd. Rydym yn nodi bod Adolygiad Grŵp Arbenigol Llywodraeth Cymru wedi gwneud argymhelliad penodol, a bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, hefyd, wedi dweud y dylid creu “chweched categori o’r enw ‘blaenoriaeth resymol’ ar gyfer pobl sydd â phrofiad o fod mewn gofal ni waeth beth fo’u statws digartrefedd, er mwyn eu hatal rhag mynd i mewn i’r system ddigartrefedd i gael mynediad at dai cymdeithasol”. A allwch chi gadarnhau y bydd hyn yn cael ei roi ar waith?

Cyflawni canlyniadau strategaethau i gefnogi plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal

Pa gamau y mae eich Llywodraeth yn bwriadu eu cymryd i gryfhau’r mecanweithiau ar gyfer cyflwyno strategaethau presennol sy'n effeithio ar blant sydd â phrofiad o fod mewn gofal? Er enghraifft, y targed cenedlaethol yn strategaeth 2016, sef codi uchelgeisiau a chyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal oedd codi cyrhaeddiad pobl ifanc 15 oed sy’n derbyn gofal yng Nghyfnod Allweddol 4 o’r trothwy cynwysedig Lefel 2 o 17% yn 2014 i 25% yn 2016. Yn ôl y ffigurau cyhoeddedig diweddaraf o 2019, roedd ganran wedi aros ar 17% bryd hynny.

Gweithlu gofal cymdeithasol plant

Pa gamau ychwanegol y bydd eich Llywodraeth yn eu cymryd i sicrhau bod yna weithlu gofal cymdeithasol plant sy'n addas at y diben – a'ch disgwyliadau o ran rôl awdurdodau lleol a Gofal Cymdeithasol Cymru – yn hyn o beth? Fe fyddwch yn ymwybodol bod yna, yn 2022, 639 o swyddi gweigion mewn timau gwaith cymdeithasol plant ledled Cymru, ac ym mis Medi 2023, bod 17.5% o weithwyr cymdeithasol gwasanaethau plant yn cael eu cyflogi gan asiantaeth.